TENANT NEWYDD MAWREDDOG AR GYFER THE MALTINGS
Mae darparwr gofod swyddfa Caerdydd, The Maltings yn falch iawn o groesawu Siambr Fasnach De Cymru.
O?r 19eg o Ionawr, bydd yr adeilad tirnod rhestredig gradd II a leolir ar gyrion canol y ddinas yn gartref i swyddfa Caerdydd y Siambr sydd newydd ei sefydlu, a ffurfiwyd ym mis Medi 2008 ar ?l i?r aelod achrededig o Siambr Fasnach Prydain (BCC) – ngb2b – gael caniat?d i gynnwys y brif ddinas o fewn ei diriogaeth.
Fel cam cyntaf i ailsefydlu presenoldeb y Siambr yng Nghaerdydd, penderfynwyd agor swyddfa newydd ar ?l ymgynghoriad trylwyr gyda busnesau yn yr ardal a oedd i gyd yn pwysleisio?r angen am bresenoldeb lleol i?r Siambr.
Dywedodd David Russ, rheolwr gyfarwyddwr Siambr Fasnach De Cymru: ?Trwy gydol ein hymgynghoriad gyda busnesau Caerdydd gwnaed un peth yn glir iawn; bod cwmn?oedd sy?n gweithredu yn y brif ddinas ac o?i hamgylch yn disgwyl i Siambr leol gael presenoldeb lleol. Trwy sefydlu swyddfa yng Nghaerdydd rydym yn symbylu ein hymrwymiad i?n aelodau a?r gymuned fusnes ehangach, ac yn sicrhau bod gan gwmn?oedd yng Nghaerdydd fynediad uniongyrchol i holl wasanaethau?r Siambr.”
?Mae The Maltings yn lleoliad delfrydol i ni gan y byddwn yn medru darparu cymorth busnes allweddol i?n haelodau ar eu cerrig drysau.?
Bydd y swyddfa newydd, fydd yn cael ei staffio yn y lle cyntaf gan Jon Hollins, pennaeth gweithredol y Siambr yng Nghaerdydd, a Lesley Lewis, cydlynydd masnach ryngwladol, yn darparu canolfan galw heibio i?r 750 o aelodau’r Siambr ac adnoddau gwerthfawr i fusnesau newydd a rheini sy?n tyfu. Bydd aelodau hefyd yn elwa o gyfleusterau desg-dros-dro , adnoddau TG a lle cyfarfod.
Er mwyn i?r Siambr ffurfio clymau agosach gyda’i haelodau a Siambrau eraill ar draws Cymru, mae The Maltings yn elwa o fod ychydig funudau?n unig o ganol dinas Caerdydd, Bae Caerdydd a choridor yr M4/A48 gan gynnig mynediad ardderchog.
Dywed rheolwr gyfarwyddwr The Maltings, Kathy Fox: ?Mae lansio Siambr Fasnach De Cymru newydd yn gam gyffrous ac ni allai fod wedi dod ar well amser i?r gymuned fusnes leol. Rydym yn cefnogi ei hymdrechion yn llawn ac yn falch iawn o?i chartrefu gyda ni yn The Maltings. Rydym eisoes yn gartref i rai o?r doniau busnes gorau yng Nghymru ac yn cynorthwyo nifer o fusnesau bach a chanolig i gyflawni eu huchelgeisiau drwy ddarparu gofod swyddfa hyblyg sy?n caniat?u ehangu parhaus ac rydym yn hyderus y bydd y Siambr newydd yn ffynnu yn y cyfleusterau swyddfa a ddarparwyd gan The Maltings.?
Mae?r busnesau ffyniannus sydd eisoes wedi eu lleoli yn The Maltings yn cynnwys Micross IT, Micross Recruitment, Caleb Roberts Financial Management Fund, Penseiri Davies Llewelyn a Jones a Integra Community Living Options. Mae gan The Maltings swyddfeydd o amrywiol feintiau i?w gosod ar hyn o bryd.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch ? Kathy Fox neu Gareth Oram ar 02920 462045








