Pecyn deniadol ond heb glymau

Gosod Swyddfeydd

Ansawdd

Bracty Fictoraidd oedd ein hadeilad rhestredig Gradd 2 yn wreiddiol sydd bellach wedi’i adnewyddu i’r safonau uchaf. Mae nodweddion hanesyddol unigryw pencadlys ein busnes yn ein hatgoffa fod gennym draddodiad hir o wasanaethu cwsmeriaid, rhywbeth rydym wedi’i groesawu.

Hyblyg

Mae ein tenantiaid yn mwynhau tenantiaeth hyblyg a rhenti rhesymol mewn swyddfeydd sy’n amrywio mewn maint o 250 i 3,000 troedfedd sgwâr. Pa un ai eu bod yn fusnesau newydd sy’n tyfu, neu’n fusnesau sydd wedi hen ennill eu plwyf, mae busnesau o wahanol faint a math wedi adeiladu eu llwyddiant yma yn ‘The Maltings’.Cliciwch yma er mwyn gweld yr hyn sydd gan gleientiaid i’w ddweud

Diogel

Mae pob tenant yn elwa o gymorth ein Tîm Rheoli a Gofal Cwsmer all ddarparu cymorth prydlon ar y safle pryd bynnag fo ei angen. Darperir diogelwch 24 awr ar y safle a theledu cylch cyfyng.

Cyfleus

Dim ond ychydig funudau yw’r ‘Maltings’ o ganol dinas Caerdydd, Bae Caerdydd a’r M4/A48 gan gynnig mynediad gwych i swyddfeydd sydd ar agor bob awr o’r dydd.
Cliciwch yma i weld y lleoliad

Contact us for more information on office lettings at The Maltings